Calonnau Iach Sir Gaerfyrddin

Statinau

Beth yw Statinau?

Statinau Gall statinau leihau 'colesterol gwael' 1/3, os cânt eu cymryd yn iawn ar y dos cywir. Mae yna dystiolaeth ymchwil gref bod statinau yn helpu i leihau'r risg o glefyd cardiofasgwlaidd. Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl barhau i'w cymryd yn yr hirdymor.

Sut y mae statinau yn atal trawiad ar y galon a strôc?

Gallwch hefyd fod mewn perygl o gael clefyd cardiofasgwlaidd os yw lefelau eich colesterol yn 'normal'. Argymhellir statinau os ydych wedi cael diagnosis o glefyd cardiofasgwlaidd neu os oes risg uchel y byddwch yn ei ddatblygu yn ystod y deng mlynedd nesaf. (Caiff hyn ei gyfrifo gan ddefnyddio pwysau, pwysedd gwaed, oedran, rhywedd, smygu a ffactorau eraill, a'i enw yw'r sgôr Qrisk).

Healthy Hearts Carmarthenshire
Statins

Cwestiynau Cyffredin Am Statinau

Mae June Davison o Sefydliad Prydeinig y Galon yn gofyn rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch statinau i’r Athro Richard Hobbs, Pennaeth Gofal Sylfaenol (Gwyddorau Iechyd) ym Mhrifysgol Rhydychen a Meddyg Teulu rhan-amser.

A yw statinau yn ddiogel? Mae fel pe baent yn cael llawer o sylw negyddol yn y wasg.

Mae'r rhain yn gyffuriau pwerus iawn ac, yn nyddiau cynnar statinau, yn ddealladwy, roedd rhai pobl yn pryderu am risgiau posibl a oedd heb eu darganfod eto. Maent bellach yn un o'r cyffuriau yr ymchwiliwyd iddynt fwyaf, ac mae gennym lawer o ddata dibynadwy – yn cynnwys data sy'n deillio o waith a ariannwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon – sy'n dangos eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol iawn i'w cymryd.

Sut y bydd cymryd statin yn fy helpu?

Gall ohirio'r cyflwr atherosglerosis (y rhydwelïau'n culhau) yn sylweddol, a lleihau'r risg o gael digwyddiad difrifol megis trawiad ar y galon neu strôc. Mae statinau hefyd yn arafu datblygiad afiechydon, felly gallant helpu i ohirio symptomau megis angina (anesmwythder yn y frest neu ddiffyg anadl). Ni fyddant yn gwrthdroi'r symptomau, ond gallant eu hatal rhag gwaethygu.

Beth yw'r gwahaniaethau rhwng statinau?

Y prif wahaniaethau yw faint y maent yn gostwng lefelau colesterol. Gellir eu rhannu'n ddau grŵp – statinau dwysedd isel (er enghraifft, pravastatin a simvastatin) a statinau dwysedd uchel (megis atorvastatin a rosuvastatin). I'r rhan fwyaf o bobl, bydd statin dwysedd is yn ddigon i leihau lefelau eu colesterol yn ddigonol, ond os nad ydyw, efallai y bydd eich meddyg am gynyddu'r dos neu newid i un mwy dwys.

 

Beth yw'r sgileffeithiau?

Poenau yn y cyhyrau yw'r mwyaf cyffredin. Mae'n naturiol cysylltu symptomau â thabled newydd, ond rydym i gyd yn cael poenau yn y cyhyrau o bryd i'w gilydd, felly mae'n anodd gwybod a ydynt oherwydd meddyginiaeth neu'n ymwneud â bywyd bob dydd. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn profi unrhyw sgileffeithiau o statinau. I rai, fodd bynnag, maent yn broblem. Os felly y mae, gofynnwch i'ch meddyg ynghylch rhoi cynnig ar statin gwahanol.

Sgileffaith eithriadol o brin, ond difrifol, yw niwed difrifol i'r cyhyrau, gan gynhyrchu poen a gwendid yn y cyhyrau. Gellir ei wrthdroi os rhoddir y gorau i'r driniaeth a bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n ei ddatblygu yn gwella'n gyflym. 

Mae statinau yn gweithredu ar yr afu, felly, i rai pobl, gallant effeithio ar ei weithrediad ond, unwaith eto, mae hyn yn anghyffredin. Mae angen pwyso a mesur unrhyw sgileffeithiau yn erbyn yr elfennau cadarnhaol, gan fod statinau yn gyffredinol yn ddiogel i'w cymryd ac yn lleihau'n sylweddol y risg o drawiad ar y galon a strôc, a allai fod yn angheuol.

Beth y dylwn ei wneud os byddaf yn profi unrhyw un o'r sgileffeithiau hyn?

Siaradwch â'ch meddyg teulu. Gall leihau eich dos neu newid eich statin. Os dyna'r achos, bydd yn mesur lefelau eich colesterol i wneud yn siŵr eu bod yn dal i fod dan reolaeth. Mae'n werth cofio y gall y symptomau sy'n gysylltiedig ag unrhyw dabledi wella dros amser neu hyd yn oed ddiflannu.

Statins
Further details on statins can be found on the BHF website here.

A allaf gymryd statin os wyf yn 80 oed?

Un feirniadaeth o statinau yw nad oedd y treialon cynnar yn cynnwys llawer o fenywod na phobl oedrannus, felly roedd yna awgrym nad oeddent yn gweithio ymhlith y grwpiau hyn. Fodd bynnag, bu llawer o astudiaethau ers hynny, sy'n dangos eu bod yn hynod fuddiol o ran lleihau trawiadau ar y galon a strôc ymhlith grwpiau oedran hŷn a menywod. 

Am ba mor hir y mae angen i mi gymryd statin?

Mae'n debyg am weddill eich oes, oherwydd mae'n rhaid i chi eu cymryd er mwyn iddynt weithio.

Sut ydw i'n gwybod a yw fy statin yn gweithio?

Bydd angen i chi gael prawf gwaed i wirio bod lefel y colesterol yn eich gwaed wedi gostwng. Ar ôl dechrau statin, mae'n cymryd tua chwe wythnos i lefelau colesterol sefydlogi, felly byddai'r rhan fwyaf o feddygon yn ail-wirio lefelau eich colesterol ar ôl tua wyth wythnos. Dylech gael archwiliad o leiaf unwaith y flwyddyn neu'n amlach os yw eich meddyg yn meddwl bod angen hynny.

A allaf gael help i dalu am fy mhresgripsiwn?

Mae presgripsiynau meddygol yn rhad ac am ddim yng Nghymru.

Rwy'n meddwl bod fy statinau yn rhoi hunllefau i mi. A allaf eu cymryd yn y bore yn lle hynny?

Dylech gael archwiliad o leiaf unwaith y flwyddyn neu'n amlach os yw eich meddyg yn meddwl bod angen hynny.

Nid oes unrhyw ddata dibynadwy ynghylch a yw statinau yn achosi hunllefau. Mae yna feddyginiaethau eraill y gallai pobl fod yn eu cymryd a all aflonyddu ar gwsg, felly mae'n anodd nodi'n union ai statinau sy'n ei achosi. 

Weithiau, os credwch y gallai tabled achosi hunllef, gall gynyddu’r risg o gael un. Yn achos rhai mathau o statinau, mae'n well eu cymryd gyda'r nos, oherwydd dyna pryd y byddant yn cael mwy o effaith o ran lleihau colesterol. Fodd bynnag, y peth pwysicaf yw eich bod yn eu cymryd yn rheolaidd, yn hytrach na dim o gwbl.

A oes unrhyw fwydydd neu ddiodydd y dylwn eu hosgoi?

Os ydych yn cymryd simvastatin, ni ddylech yfed sudd grawnffrwyth gan ei fod yn cynyddu crynodiad y cyffur yn llif y gwaed, gan gynyddu'r risg o brofi sgileffeithiau. Os ydych yn cymryd math arall o statin, ceisiwch osgoi yfed gormod o sudd grawnffrwyth, neu efallai y byddwch am ei osgoi yn gyfan gwbl.

 

Rydw i'n cymryd 80 mg o atorvastatin ond nid yw lefelau fy ngholesterol yn ddigon isel o hyd. Beth arall y gallaf ei wneud?

Bwytewch ddeiet iach a cheisiwch osgoi bwydydd sy'n cynnwys llawer o frasterau dirlawn. Gall sterolau a stanolau planhigion – sy’n cael eu hychwanegu at ddiodydd a bwydydd penodol – helpu i leihau lefelau eich colesterol hyd at 10 y cant.

Gall colli rhywfaint o bwysau, os ydych dros eich pwysau, helpu hefyd. Os nad yw lefelau eich colesterol yn gostwng digon, efallai y bydd eich meddyg yn rhoi'r cyffur ezetimibe i chi ar bresgripsiwn, yn ogystal â'ch statin, er mwyn gostwng lefelau eich colesterol ymhellach. Bydd hyn yn helpu i atal eich coluddyn rhag amsugno colesterol. Yn ogystal â chymryd statin, mae'n bwysig gwneud ymarfer corff, bwyta'n dda ac os ydych yn smygu, stopiwch. 

***Os oes gennych risg uchel o glefyd cardiofasgwlaidd ac rydych eisoes yn cymryd statin, efallai y bydd eich meddyg teulu yn newid eich meddyginiaeth i wella eich colesterol ymhellach mewn apwyntiad adolygu blynyddol.

Statins
A full look at this list of frequently asked questions regarding statins can be found here.
Ffoniwch Linell Gymorth Heart Matters gyda'ch cwestiynau ar 0300 330 3300 i gael rhagor o wybodaeth.

British heart foundation
Rhagor o wybodaeth am leihau eich ffactorau risg.