Nid yw 38% o oedolion y DU yn bodloni'r argymhellion o ran gweithgarwch corfforol.
Gall bod yn gorfforol anweithgar arwain at glefydau'r galon a chylchrediad y gwaed.
Gall cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol leihau eich risg o glefyd y galon a chylchrediad y gwaed 35%.
Cyhyr yw'r galon ac, fel unrhyw gyhyr arall, mae arno angen gweithgarwch corfforol i'w helpu i weithio'n iawn. Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd:
Er mwyn lleihau eich risg o glefydau'r galon a chylchrediad y gwaed, mae angen i chi fod yn gorfforol weithgar bob dydd. Nid oes angen i chi wneud ymarferion penodol na chymryd rhan mewn chwaraeon, gallwch fynd am dro, torri'r lawnt, hwfro'r tŷ, neu ddawnsio i gerddoriaeth. Mae unrhyw weithgarwch yn well na dim, a dylech geisio torri cyfnodau hir o anweithgarwch, er enghraifft eistedd neu orwedd. Pan fyddwch yn gwylio'r teledu, codwch a cherdded o gwmpas yn ystod yr egwyliau hysbysebu. Anelwch at wneud o leiaf 150 munud o weithgarwch cymedrol yr wythnos. Mae hyn yn unrhyw beth sy'n codi cyfradd curiad eich calon, ac yn gwneud i chi anadlu'n gyflymach a theimlo'n gynhesach, er enghraifft cerdded yn gyflym neu feicio. Gallwch rannu'r 150 munud dros yr wythnos. Gallwch hyd yn oed wneud pyliau byr o weithgarwch – mae pob munud yn cyfrif. Dylech hefyd anelu at wneud gweithgareddau i gryfhau'r cyhyrau, megis defnyddio pwysau dwylo, dringo'r grisiau, garddio, er enghraifft palu, neu gario bagiau siopa trwm, a hynny o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos.
Calonnau Iach Sir Gaerfyrddin
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.