Calonnau Iach Sir Gaerfyrddin

Gweithgarwch Corfforol

Gweithgarwch Corfforol

Nid yw 38% o oedolion y DU yn bodloni'r argymhellion o ran gweithgarwch corfforol.

Gall bod yn gorfforol anweithgar arwain at glefydau'r galon a chylchrediad y gwaed.

Gall cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol leihau eich risg o glefyd y galon a chylchrediad y gwaed 35%.

Exercising
Healthy Hearts Carmarthenshire
skiing
rowing
gym

Pam ymarfer corff?

Cyhyr yw'r galon ac, fel unrhyw gyhyr arall, mae arno angen gweithgarwch corfforol i'w helpu i weithio'n iawn. Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd:

  • Yn helpu i reoli pwysedd gwaed
  • Yn codi lefelau colesterol da ac yn gostwng lefelau colesterol gwael
  • Yn gallu helpu i reoli lefelau glwcos gwaed (lleihau diabetes)
  • Yn cynyddu nifer y calorïau yr ydych yn eu llosgi gan helpu i reoli pwysau
  • Yn gwella eich lles cyffredinol trwy roi hwb i'ch hwyliau, gwella eich gallu i ganolbwyntio a gwella eich cwsg.

Faint o weithgarwch corfforol y mae angen i mi ei wneud?

Er mwyn lleihau eich risg o glefydau'r galon a chylchrediad y gwaed, mae angen i chi fod yn gorfforol weithgar bob dydd. Nid oes angen i chi wneud ymarferion penodol na chymryd rhan mewn chwaraeon, gallwch fynd am dro, torri'r lawnt, hwfro'r tŷ, neu ddawnsio i gerddoriaeth. Mae unrhyw weithgarwch yn well na dim, a dylech geisio torri cyfnodau hir o anweithgarwch, er enghraifft eistedd neu orwedd. Pan fyddwch yn gwylio'r teledu, codwch a cherdded o gwmpas yn ystod yr egwyliau hysbysebu. Anelwch at wneud o leiaf 150 munud o weithgarwch cymedrol yr wythnos. Mae hyn yn unrhyw beth sy'n codi cyfradd curiad eich calon, ac yn gwneud i chi anadlu'n gyflymach a theimlo'n gynhesach, er enghraifft cerdded yn gyflym neu feicio. Gallwch rannu'r 150 munud dros yr wythnos. Gallwch hyd yn oed wneud pyliau byr o weithgarwch – mae pob munud yn cyfrif. Dylech hefyd anelu at wneud gweithgareddau i gryfhau'r cyhyrau, megis defnyddio pwysau dwylo, dringo'r grisiau, garddio, er enghraifft palu, neu gario bagiau siopa trwm, a hynny o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos.