Calonnau Iach Sir Gaerfyrddin

Beth yw Clefyd Cardiofasgwlaidd?

Beth yw Clefyd Cardiofasgwlaidd?

Mae'n golygu bod dyddodion brasterog wedi cronni yn ein rhydwelïau a bod gennym risg uwch o glotiau gwaed. Ein rhydwelïau yw'r pibellau sy'n cludo gwaed o amgylch y corff. Mae'n gysylltiedig â niwed i'r rhydwelïau ym mhrif organau ein cyrff, megis y galon (sy'n achosi trawiad ar y galon), yr ymennydd (sy'n achosi strôc a dementia), yr arennau (sy'n achosi clefyd yr arennau), y llygaid a'r cyflenwad gwaed i'r coesau.

Healthy Hearts Carmarthenshire
Chest Pain
Gorflinder
Chest Pain
Pain in Arms/Legs
Very Slow/Fast Heartbeat
Previous
Next

Beth yw'r symptomau?

  • Poen yn y frest
  • Poen, gwendid, coesau neu freichiau dideimlad
  • Diffyg anadl
  • Curiadau calon araf iawn neu gyflym iawn
  • Gorflinder
  • Teimlo'n benysgafn, yn chwil neu fel petaech ar fin llewygu
  • Coesau chwyddedig

Beth sy'n achosi clefyd cardiofasgwlaidd?

Mae yna lawer o bethau a all gynyddu eich risg o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd. Po fwyaf o ffactorau risg sydd gennych, y mwyaf yw eich siawns o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd. Y newyddion da yw y gall y rhan fwyaf o'r ffactorau risg gael eu newid, eu trin neu eu rheoli:

Some cannot be changed such as advancing age, gender (men are more at risk, women are more at risk after the menopause). A family history of CVD where a mother, father, sister or brother had a stroke before 55 years of age for men, or 65 years of age for women.